Sibrydion Snaks

Athrylith

Fe fues i'n y Drwm heno'n y Llyfrgell Genedlaethol yn gwrando ar Niall Griffiths yn siarad am ei waith. Rodd Iwcs o enwogrwydd Iwcs a Doyle yn darllen ychydig o'i waith, darlleniadau da iawn hefyd. Dwi heb ddarllen 'run o'i lyfrau, ond dwi wedi cael blas arnyn nhw ar ôl heno.

Er ei fod yn amlwg wedi bod yn yfed am gyfnod estynedig cyn y sesiwn (ac yn parhau i yfed yn ystod y sesiwn ei hun), roedd o'n amlwg fod y dyn yn arbennigo huawdl ac yn llwyddo i fynegi ei hun yn wych. Er fod ei lyfrau yn ymddangos yn ddiriaethol iawn, gyda alcohol a chyffuriau yn themâu amlwg, roedd hi'n amlwg bod llawer mwy i'r dyn nac adrodd straeon am fedd-dod ac yn feddyliwr dwfn iawn.

Dyma rywfaint o ddolenni am yr awdur, sydd wedi sgwennu Kelly & Victor, Grits (wedi'i gyfieithu i 10 iaith), Sheepshagger a Stump.

Cyfweliad diddorol am ei hanes a'i waith
Dyma beth sydd ganddo i ddweud am lyfrau y flwyddyn 2003 sy'n dangos ei steil i raddau
Proffeil y BBC

1 Sylw:

Rhoi sylw

<< Hafan