Sibrydion Snaks

Melys a'r Chwerw

Dwi'n wirioneddol hoff o'n chwaraeon, felly mae hi wedi bod yn benwythnos da i gefnogwyr o'i gadair fel fi. Ddim yn gwbl lwyddiannus - Nicole Cooke yn dod yn bumed siomedig a Kelly Morgan yn colli'n y badminton. Ond digon i'w ddathlu - buddugoliaethau i Chelsea, Aber a Schumacher.

Dwi wedi bod yn dilyn y blog diddorol iawn Scott Goldblatt ers ychydig, ac mae'n wirioneddol ddiddorol - yr ochr bersonol honno o ganol y pentref Olympaidd sy'n cael ei cholli yng nghanol sbloets botwm coch y BBC a'r darllediadau diderfyn.

  • Dyma'r blog.


  • A pam does na ddim cleddyfa arno?! Gymnasteg bob awr o'r dydd a rasus beiciau am oriau, ond lle mae'r un peth dwi am ei weld? grr