Sibrydion Snaks

Dodgeball

Newydd fod yn gweld y ffilm Dodgeball gyda Ben Stiller a Vince Vaughn yn serenu. Dwi'n ffan mawr o Ben Stiller, yn enwedig Zoolander, felly roedd Dodgeball yn plesio'n fawr iawn.

Mae'r stori'n ddigon syml - grwp o alltudion cymdeithas yn ymdrechu (a llwyddo wrth gwrs) i ennill cystadleuaeth dodgeball yr ADAA (American Dodgeball Association of America) yn Las Vegas, gan ennill $50,000 o bunnoedd ac achub eu gym. Os nad ydych chi'n hoffi'r math o hiwmor sydd mewn ffilmiau fel Zoolander a'r Royal Tenenbaums, wnewch chi ddim mwynhau hon, ond i'r rhan sy'n ymfalchio yn y math hwn o synnwyr digrifwch, fe fyddwch chi'n mwynhau'r ffilm hon mas draw.

Pan yn gwylio'r ffilm, mae'n amlwg fod na fwy i'r ffilm na dim ond yr hiwmor amlwg yma, e.e enw'r cymeriad sy'n gweld ei hun fel dyn perffaith ayyb yw White Goodman. Mae na sawl cameo yn y ffilm hefyd - David Hasselhoff, William Shatner, Hank Azaria a Chuck Norris - ond cameo Lance Armstrong sy'n sefyll allan - plis sticia at y reidio beic. Roedd na sawl cyffyrddiad da arall yn y ffilm, fel y sylwebwyr chwaraeon stereotypical, a pherfformiad Rip Torn fel yr hyfforddwr hollol wallgo Patches O'Houlihan.

Hon yw'r gomedi orau i mi weld ers amser - ffilm ardderchog sy'n haeddu 8.5 / 10.

Ac arhoswch tan reit ar ddiwedd y credits - yn sicr werth aros.