Sibrydion Snaks

I am a Jedi, like my father before me ...

Wedi derbyn tair ffilm wreiddiol Star Wars ar DVD fel anrheg pen blwydd - maen nhw'n wych!

Er mod i'n gwybod y rhan fwyaf o'r sgript ar fy nghof, wrth wylio'r fersiwn newydd, dwi'n cael gwefr newydd. Mae'r effeithiau'n ffantastig gan ystyried y cyfnod, a'r gwaith gyda 'minatures' yn dda iawn hefyd. Gwirioneddol ddiddorol ydi gwylio'r rhaglenni dogfen sydd ar y DVD ychwanegol, a gweld yr holl fanylder a meddwl caled sydd wedi mynd i mewn i'r gyfres.

Nes i ddim talu am y set, ond ma nhw'n sicr werth yr arian - y llun o safon uchel iawn, y rhaglenni dogfen yn wych ynghyd รข gweld y newidiadau (sydd weithiau'n gynnil, a weithiau'n boenus o amlwg).