Sibrydion Snaks

Lysh

Mae'n ymddangos mai'r unig bethau sy'n cael eu blogio yma ydi tripiau i'r sinema a'r theatr, ac yn parhau yn y traddodiad hwnnw, dwi am son am y ddrama 'Lysh' o waith y Prifardd a'r archddramodydd Aled Jones Williams.

Drama lled-hunangofiannol ydi Lysh, gyda rhai cymeriadau'n adleisio'r awdur yn eithaf amlwg. Roedd yr actio'n dda ar y cyfan, er mod i'n teimlo fod rhai actorion yn gryfach na'i gilydd. Gan fod y ddrama mor ddwys, llawn tyndra ac yn bersonol iawn, roedd hi braidd yn annifyr eistedd yn yr ail res, ond dyna ni. O safbwynt technegol, roedd hi'n ddrama eithaf prysur, gyda delweddau yn cael eu taflunio ar gefn y set am y rhan fwyaf o'r ddrama, a llawer o gerddoriaeth yn cael ei daflu i mewn hwnt ac yma.

Er fy mod i'n gweld y ddrama fel llwyddiant yn gyffredinol, ac er fod y ddrama'n bersonol iawn, doedd y cymeriadau ddim yn gredadwy iawn ar adegau, yn enwedig eu ffordd o siarad. Doedd y geiriau ddim yn swnio fel petaen yn real, ac yn tynnu oddi ar yr effaith ryw chydig. Aneffeithiol hefyd oedd cael cymaint o gyfeiriadau at gerddorion a cherddoriaeth, a llethol oedd yr holl gymariaethau 'modern, bachog'. Roedd ambell i berl yn y ddrama, ond oherwydd y gorwneud difrifol, roedd yr effaith wedi'i ddyfrio'n sylweddol.

Wedi dweud hyn oll, nes i fwynhau gwylio'r ddrama. Yn fy marn pitw i, doedd y cynhyrchiad ddim cystal â 'Yn Debyg i Ti a Fi' na'r ysgrifennu mor dda â 'Ta-ra Teresa', ond mae'n haeddu tua 7 neu 7.5 allan o 10.