Sibrydion Snaks

There'll be sausage rolls and welshcakes in the gazebo

Fe fues i'n y Drwm neithiwr i fwynhau cwmni Huw Ceredig a Paul Durden, ac i wylio'r ffilm Twin Town. Do'n i ddim wedi gweld y ffilm o'r blaen - dim ond clipiau yma ac acw ar y teledu. Roedd hi'n wych, yn darlunio cymdeithas mewn ffordd real, doniol a chrafog.

Sgwrs Huw Ceredig a Paul Durden yn wirioneddol dda. Durden, awdur y sgript, yn amlwg yn foi coeth iawn oedd wedi ymollwng i mewn i greu'r ffilm, a Huw Ceredig yn ddoniol iawn gyda'i straeon o'r set.

Cododd un peth yn y sgwrs, sy'n frith ar draws y cofnod yn imdb sef y syniad mai Trainspotting Cymraeg ydi Twin Town. Mae hyn yn rybish llwyr wrth gwrs. Dwi o'r farn fod Twin Town, neu Pretty Shitty City fel y bwriadodd Durden, yn ffilm llawer cymhlethach na Trainspotting, ac yn sicr filgwaith yn fwy doniol.

4 Sylw:

  • Odd popeth am y noson yna yn dda.....heblaw gorfod eistedd ar bwys snaks ;-). Na wir, oedd y ffilm yn wych a'r drafodaeth wedi'r dangosiad yn ddoniol ac yn dod a llawer o agweddau'r ffilm yn fyw. Arbennig o hoff o'r olygfa pan welir y ci gyda'r billboard Eric Cantona tu ol iddo fe....briliant.

    gan Anonymous Anonymous, am 11 October 2004 at 16:16  

  • Odd popeth am y noson yna yn dda.....heblaw gorfod eistedd ar bwys snaks ;-). Na wir, oedd y ffilm yn wych a'r drafodaeth wedi'r dangosiad yn ddoniol ac yn dod a llawer o agweddau'r ffilm yn fyw. Arbennig o hoff o'r olygfa pan welir y ci gyda'r billboard Eric Cantona tu ol iddo fe....briliant.

    Finch

    gan Anonymous Anonymous, am 11 October 2004 at 16:16  

  • no weeee. ma twin town yn ffilm da am yr hanner cynta, wedyn ma'n trio troi i mewn i ryw fath o wannabe-gangster-flick efo leins 'ultra-dyfynadwy' ('self-consciously quoteable' i ddefnyddio'r iaith fain). ma raid i fi anghytuno am be ti'n ddeud am trainspotting, hefyd, rhen grysti. ti di ddarllen o? neu'i weld o? llawer iawn mwy cymhleth/intense/diddorol/real/trist/doniol, a mae o'n neud i twin town edrych yn blentynaidd iawn iawn. licio sue roderick yno fo, ddo. di hi ddim di edrych mor dallas a hynna ers 'panto'

    gan Blogger tafod, am 13 October 2004 at 13:36  

  • dwi'n methu gadal sylw i anghytuno efo chdi. *dwi'n anghytuno, frawd.*

    gobeithio bo ti'n oce

    s
    x

    gan Blogger tafod, am 13 October 2004 at 13:43  

Rhoi sylw

<< Hafan