Sibrydion Snaks

iTunes a fi

Dwi wedi bod yn prynu cerddoriaeth oddi ar hwn ers y diwrnod cyntaf, ac wedi prynu rhai cannoedd o draciau erbyn hyn (y traciau diwethaf i mi eu prynu oedd Bryn Terfel yn canu Silent Noon, fersiwn byw U2 o Helter Skelter ac Ella Fitzgerald yn canu Cry Me a River). Mae'n gweithio'n wych a dwi'n prynu llawer mwy o gerddoriaeth ers i'r siop agor.

Fodd bynnag, newydd gael profiad rhyfedd iawn iawn.

Mae'n bosib prynu rhai traciau sy'n cynnwys fy llais i ar iTunes, oddi ar albym Katherine Jenkins, Second Nature. Fe recordiwyd y caneuon gan dim Katherine nol yn yr haf ar gwrs Côr Ieuenctid Cenedlaethol Cymru, ac er ei bod hi'n rhyfedd bod yn 14 yn y siart albymau ac yn rhif 1 yn y siart glasurol ers wythnosau, dim ond ar ôl gweld y caneuon ar iTunes dwi wedi sylweddoli pa mor rhyfedd ydy clywed eich llais chi ar recordiad o'r fath.

1 Sylw:

Rhoi sylw

<< Hafan